Mae Heddlu Gogledd Cymru yn amau bod tân mewn carafan yng Nghlynnog ger Caernarfon wedi cael ei gynnau’n fwriadol.

Llosgwyd y garafan yn ulw ond chafodd neb ei anafu.

Galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i Glynnog toc wedi hanner nos a bu dau griw wrthi’n diffodd y fflamau.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth am yr achos, mae’r heddlu yn gofyn iddyn nhw ffonio 101.