Roedd dyn o Gaerdydd gafwyd yn farw  ar waelod clogwyn Beachy Head yn Sussex wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fod â delweddau amheus yn ei feddiant yn ôl Heddlu De Cymru.

Daethpwyd o hyd i gorff y dyn 58 oed gerllaw corff dynes 81 oed hefyd o Gaerdydd wrth droed y clogwyn dydd Mercher ond dyw’r heddlu ddim wedi eu henwi hyd yn hyn.

Mae nhw wedi cadarnhau beth bynnag fod y dyn wedi cael ei arestio dydd Llun diwethaf ac mae Heddlu Sussex wedi cadarnhau bod y ddau wedi aros yn yr ardal nos Fawrth cyn teithio i Beachy Head mewn car Vauxhall du fore Mercher.

Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu De Cymru, roedd y gwr wedi cael ei ryddhau ar fechniaeth tra roedd yr ymchwiliadau yn parhau ac mae nhw bellach wedi cyfeirio y mater i sylw Comisiwn Cwynion yr Heddlu.

Mae Heddlu Sussex wedi apelio am wybodaeth am y dyn a’r ddynes yn ystod y cyfnod cyn iddyn nhw farw.