Prom Aberystwyth
Cafodd dau fyfyriwr o Aberystwyth eu hachub oddi ar un o draethau’r dref neithiwr (nos Wener) ar ôl cael eu dal gan y llanw yno.

Fe ddefnyddiodd y ddau eu ffonau symudol i alw ar wylwyr y glannau a’r bad achub lleol i ddod i’w codi o’r traeth.

Cafodd y ddau driniaeth am oerfel yn Ysbyty Bronglais ond mae nhw bellach wedi cael mynd adref.