Hywel Williams AS
Mae Aelod Seneddol Caernarfon wedi gofyn am gyfarfod brys efo rheolwyr cwmni Scottish Power am fod y cwmni yn bwriadu symud eu gweithwyr o Gaernarfon a Queensferry i’w swyddfa fawr yn Wrecsam erbyn diwedd Mehefin eleni.

Ar hyn o bryd mae 32 o weithwyr yn cael eu cyflogi gan y cwmni yng Nghaernarfon a 10 yn Queensferry.

Mae Mr Williams yn pryderu bod y cynllun nid yn unig yn ergyd arall i economi ardal Caernarfon ond hefyd yn credu y gall gael effaith ar allu Scottish Power i ddarparu gwasanaeth Cymraeg.

“Mae gweithwyr Caernarfon yn darparu gwasanaeth Cymraeg i gwsmeriaid ac rwy’n amau os fydd Scottish Power yn medru parhau gyda hynny os fyddan nhw’n symud,” meddai.

“Mae adroddiadau bod sefydliadau eraill wedi cael trafferth recriwtio staff yn Wrecsam sydd â’r sgiliau perthnasol ac sy’n siarad Cymraeg.”

Mae Scottish Power yn pwysleisio y bydd eu hymrwymiad i gynnal gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn parhau ond yn bendant eu bod am fwrw ymlaen efo’r cynllun yn dilyn llwyddiant cynllun cyffelyb yn yr Alban.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni y bydd y gweithwyr yn cael cynnig symud i Wrecsam yn barhaol neu am gyfnod prawf o dri mis ac y bydd y cwmni yn talu costau teithio.

Buasai hyn yn golygu taith ddyddiol i weithwyr Caernarfon o tua 125 milltir y dydd ac mae Scottish Power wedi dweud y bydd y rhai sy’n gweld hyn yn anymarferol yn cael cyfle i wneud cais am swydd arall efo’r cwmni neu derbyn diswyddo gwirfoddol.

Mae cynllun cyffelyb gan Scottish Power yn yr Alban eisoes ar y gweill ers Tachwedd 2011 a bydd yn gorffen y flwyddyn nesaf.