Leanne Wood
Fe fydd arweinydd newydd Plaid Cymru yn defnyddio cynhadledd y blaid ddydd Gwener a Sadwrn er mwyn dweud na ddylai Cymru fodloni ar fod yn wlad dlawd.

Mae disgwyl i Leanne Wood amlinellu ei chynlluniau ar gyfer “chwyldro diwydiannol gwyrdd” yng Nghymru yn y gynhadledd ar gae rasio Ffos Las yn Sir Gaerfyrddin.

Fe fydd hi hefyd yn dadlau o blaid annibyniaeth i Gymru – er bod polau piniwn yn awgrymu mai 7% yn unig sy’n cefnogi’r syniad.

Bydd Leanne Wood yn dweud y bydd yr economi yn cael ei roi “wrth galon” popeth y bydd hi’n ei wneud.

“Mae angen i ni ddatblygu’r ddadl o blaid annibyniaeth nawr. Fe fydd annibyniaeth yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf yr ydyn ni’n eu hwynebu,” meddai.

“Ar hyn o bryd mae gennym ni Gynulliad sy’n gallu creu deddfau, ond does ganddo ddim y grymoedd sydd eu hangen i drawsnewid ein heconomi.

“Mae’n afrealistig disgwyl i ni ffynnu os ydyn ni’n parhau fel yr ydym ni. Rydyn ni wedi ein clymu at economi sy’n rhoi’r pwyslais i gyd ar ddatblygu Llundain a De Ddwyrain Lloegr ar draul pawb arall.

“Os nad ydyn ni’n penderfynu rheoli ein ffawd ein hunain, ni fydd ein heconomi ni’n tyfu.

“Fy mhrif neges yw na ddylen ni dderbyn fod tlodi yn anochel a chymryd mantais o bob cyfle i sicrhau bod Cymru yn wlad well ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”