Elin Jones
Mae grŵp hawliau anifeiliaid wedi beirniadu Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Elin Jones, am ei sylwadau “anghyfrifol” ynglŷn â moch daear.

Mae’r grŵp yn honni ei bod hi wedi annog ffermwyr i dorri’r gyfraith a lladd moch daear.

Yn gynharach yr wythnos hon cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n cefnu ar gynlluniau’r glymblaid Plaid-Llafur flaenorol i ddifa’r anifeiliaid.

Roedden nhw’n bwriadu cynnal rhaglen brechu er mwyn ceisio lleihau nifer yr achosion TB mewn gwartheg.

Mae Elin Jones, AC Ceredigion, wedi cyhuddo’r llywodraeth o gefnu ar gefn gwlad Cymru.

Ychwanegodd na fyddai’n beio ffermwyr “pe baen nhw’n gwneud unrhyw beth” i amddiffyn eu da byw.

Mae Plaid Cymru wedi gwrthod yr awgrym bod ei sylwadau yn annog ffermwyr anfodlon i ddifa moch daear.

Ond mae Humane Society International UK wedi galw ar y gwleidydd 45 oed i dynnu ei sylwadau’n ôl, gan ddweud eu bod nhw’n beryglus.

‘Annog ffermwyr’

“Roedd sylwadau Elin Jones yn anghyfrifol iawn,” medai cyfarwyddwr gweithredol y grŵp, Mark Jones.

“Fel yr ydw i’n ddeal ei sylwadau, mae hi’n annog ffermwyr i dorri’r gyfraith drwy ladd moch daear.

“Wrth wneud hynny, mae hi’n anwybyddu gwybodaeth wyddonol sy’n dangos yn glir na fydd difa moch daear yn arwain at gael gwared ar TB ychol.

“Mae hi hefyd yn rhoi enw drwg i Blaid Cymru a Chynulliad Cymru.

“Beth bynnag ei barn ynglŷn â pholisi Llywodraeth Cymru, ni ddylid cydoddef trais yn erbyn bywyd gwyllt.

“Rydyn ni’n ei hannog hi i synnu ei sylwadau yn ôl a’i gwneud hi’n glir nad ydi hi yn hyrwyddo difa moch daear yn anghyfreithlon.”

Dywedodd Humane Society International UK eu bod nhw wedi ysgrifennu at arweinydd newydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Dywedodd lefarydd ar ran Plaid Cymru bod dirprwy lywydd y Cynulliad wedi dweud nad oedd un rhywbeth o’i le â sylwadau Elin Jones.