Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru wedi croesawu addewid David Cameron i ystyried galwadau i ddatganoli cyfrifoldebau dros ffatrioedd Remploy i Gymru.
Ysgrifennodd Carwyn Jones at Prif Weinidog y Deyrnas Unedig gan groesawu ei addewid i “ystyried yn ofalus” y galwadau i roi’r cyfrifoldeb dros ffatrioedd Remploy Cymru yn nwylo Llywodraeth Cymru.
Yn gynharach yn y mis, fe gyhoeddodd Llywodraeth San Steffan gynlluniau i gau saith o’u naw ffatri yng Nghymru, a fyddai yn arwain at golli cannoedd o swyddi.
Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru eisoes wedi galw ar y Llywodraeth i ystyried datganoli cyllideb Remploy Cymru i Gymru ar gyfer y dair blynedd nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y byddai hyn yn eu helpu i ddatgblygu dyfodol cynaliadwy i rai o’r ffatrioedd.
Ddoe, fe addawodd David Cameron y byddai’n ystyried gwneud hynny – ond rhybuddiodd mai’r union reswm dros gau’r ffatrioed oedd y ffaith nad oedden nhw’n gynaliadwy.
Wrth ymateb i addewid y Prif Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe, dywedodd Carwyn Jones ei fod bellach wedi ysgrifennu ato i “ymchwilio i’r posibilrwydd o ddatganoli’r gyllideb dros ffatrioedd Remploy yng Nghymru dros y dair blynedd nesaf i Lywodraeth Cymru.
“Byddai cam o’r fath yn ein caniatau ni i ddatblygu ystod o opsiynnau i gefnogi gweithwyr yn y ffatrioedd hyn,” meddai.
“Rydyn ni eisiau dod o hyd i ateb parhaol. Mae gweithwyr Remploy ymhlith rhai o’r rhai mwyaf difreintiedig yn y gymdeithas, ac rydyn ni eisiau rhoi cymorth iddyn nhw.”
Dywedodd Carwyn Jones fod y cyfnod ymgynghori 90 diwrnod ar gau’r ffatrioedd yn llawer rhy fyr.
“Byddai datganoli’r gyllideb i Lywodraeth Cymru yn rhoi cyfle i ni geisio gwneud y busnes yn broffidiol a sicrhau dyfodol hir-dymor i’r gweithwyr,” meddai.
“Dwi eisiau gweithio ar frys gyda Llywodraeth San Steffan i ddod o gytundeb ynglŷn â gwneud hyn.”