Bu’n rhaid achub tri phlentyn o ymyl clogwyn 20 troedfedd mewn hen chwarel.
Roedd dynion tân Gwasanaeth Tân ac Achub wedi eu galw i ‘Devils Drop’ ar Manor Way, Risga, toc wedi 5.30pm neithiwr.
Roedd y plant “mewn sefyllfa beryglus”.
Aethpwyd a dau fachgen ac un ferch i’r ysbyty â mân anafiadau.
“Hoffai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru atgoffa’r cyhoedd ynglŷn â pheryglon cerdded mynyddoedd, ac y dylid cymryd gofal wrth chwareli a llwybrau cerdded,” meddai llefarydd.