Mae’r heddlu wedi dweud eu bod nhw’n ceisio dod o hyd i yrrwr a adawodd safle damwain ar ôl gwrthdaro â char oedd yn cynnwys dau blentyn.

Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i safle’r ddamwain ar yr A468 rhwng Machen Isaf a Basaleg, ger Casnewydd, am 7.40pm ddydd Mawrth.

Dywedodd Heddlu Gwent bod gwrthdrawiad rhwng Suzuki Vitara gwyrdd a “char bach tywyll”.

“Dioddefodd gyrrwr 42 oed gwrywaidd y Suzuki, yn ogystal â dynes 32 oed a dau blentyn 12 oed ac wyth, fan anafiadau,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Ni wnaeth y cerbyd tywyll oedd yn teithio i’r cyfeiriad arall atal.”

Mae swyddogion wedi galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw, ac wedi gofyn i fodurdai lleol gadw llygad.

“Rydyn ni’n credu y bydd gan y cerbyd tywyll rywfaint o niwed ar ochor y teithiwr,” meddai llefarydd.

“Rydyn ni hefyd yn ceisio cael gafael ar ddynes wnaeth atal er mwyn helpu trigolion y Suzuki.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Gwent ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.