Mae diffoddwyr tân wedi achub tri pherson ar ôl tân mewn cartref gofal yn Sir y Fflint, ddoe.

Roedd trigolion eraill y cartref gofal ar stryd New Brighton, yr Wyddgrug, wedi gadael yr adeilad erbyn i’r diffoddwyr gyrraedd toc cyn 6pm ddoe.

Aethpwyd a gweithiwr gofal ac un o drigolion y cartref gofal i’r ysbyty ar ôl iddyn nhw anadlu mwg. Cafodd perthynas i un o’r trigolion ei drin am anadlu mwg yn y fan a’r lle.

Roedd y tân yn yr ystafell gawod ac roedd y mwg wedi lledu drwy’r llawr cyntaf.

Bu’n rhaid achub dau o’r bobol, y gweithiwr gofal a’r perthynas, drwy ffenestr y llawr cyntaf.

Anfonwyd criwiau tân o’r Wyddgrug , Glannau Dyfrdwy, ac ystôl awyrol o Wrecsam, yno.

Mae’r gwasanaethau brys yn ymchwilio i beth achosodd y tân.