Mae Aelod Cynulliad wedi galw am ddiddymu gorchymyn Llywodraeth Cymru i atal etholiadau lleol Cyngor Ynys Môn.

Dywedodd AC rhanbarth Gogledd Cymru, Mark Isherwood, o’r Ceidwadwyr Cymraeg, na fydd pobol yr ynys yn cael dweud eu dweud ar ba wasanaethau fydd yn cael eu torri yno.

Roedd sawl pwnc llosg yn Ynys Môn, gan gynnwys cwmnïau’n buddsoddi yno, mewnfudo, a graddfa treth cyngor, oedd angen barn y bobol arnynt, meddai.

Wrth siarad yn Siambr y Cynulliad heddiw, fe fydd yn dweud mai problemau rheolaeth gorfforaethol sydd wrth wraidd trafferthion y cyngor.

“Fe ddylai’r Gweinidog Llywodraeth Leol ail-ystyried ei weithredoedd ei hun ar Ynys Môn,” meddai.

“Mae Cyngor Ynys Môn wedi gweld un sgandal ar ôl y llall ers iddo gael ei ffurfio yn 1996. Mae’r cyhuddiadau yn ymwneud yn bennaf â goruchwylwyr uwch a rheolaeth gorfforaethol y cyngor.

“Ond dim ond fis diwethaf y gwnaeth y gweinidog gydnabod yr angen am newid radical.

“Fe fûm i’n cwrdd â Chynghorwyr Ynys Môn ym mis Rhagfyr, a chael gwybod mai rheolaeth gorfforaethol oedd y broblem, nid y cynghorwyr.

“Roedden nhw’n pwysleisio bod angen mandad etholiadol pedair blynedd ar y Cyngor.”