Leanne Wood
Mae arweinydd newydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi dweud nad ydi hi’n teimlo ei bod hi’n rhy bell i’r chwith yn wleidyddol.

“Dw i wedi gweithio dros y blynyddoedd gydag ystod eang o bobl o wahanol bleidiau gwleidyddol,” meddai.

“A dw i’n siŵr y bydda’ i’n parhau i weithio gyda phobol o sefydliadau gwahanol yn y dyfodol hefyd oherwydd os ydyn ni am wella ffawd Cymru, wnawn ni ddim gwneud hynny jest fel Plaid Cymru.

Mae’n dweud bod Plaid Cymru eisoes  i’r chwith o’r Blaid Lafur ac mai ei gwaith hi yw dangos bod yna ddewis arall i bleidleiswyr.

A dyw hi ddim i weld yn poeni am leoliad y blaid ar y sbectrwm gwleidyddol chwaith.

“Nawr os ydych chi eisiau defnyddio labeli fel chwith a de a phopeth arall mae hynny’n iawn,” meddai.

“Ond yr hyn ydw i’n cynrychioli yw’r hyn y mae aelodau Plaid Cymru yn pleidleisio ar ei gyfer mewn cynadleddau bob blwyddyn.

“Dw i ddim yn teimlo fod fy ngwleidyddiaeth i yn wahanol i wleidyddiaeth yr aelodau ar lawr gwlad.”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 22 Mawrth