Mae David Cameron wedi addo y bydd yn “ysytried yn ofalus” y galwadau i ddatganoli arian ar gyfer ffatrioedd Remploy, sydd dan fygythiad, i Gymru.

Rhybuddiodd y Prif Weinidog heddiw fod y ffatrioedd wedi cael eu cau am resymau dilys, ond ei fod yn addo ystyried y galwadau i’w rhoi yn nwylo Llywodraeth Cymru.

Wrth herio’r Prif Weinidog yn ystod y sesiwn holi yn San Steffan heddiw, dywedodd AS Llafur, Ann Clwyd, fod Llywodraeth Lafur y Cynulliad eisiau cymryd rheolaeth dros y gyllideb er mwyn ceisio arbed ffatrioedd Remploy Cymru.

Mae’r ffatrioedd yn cyflogi gweithwyr anabl, ond fe gyhoeddodd y Llywodraeth gynlluniau i gau 36 o’r ffatrioedd yn gynharach yn y mis, gan gynnwys saith yng Nghymru, a hynny’n bygwth swyddi 272 o weithwyr anabl.

‘Dyfodol i’r ffatrioedd’

Tra’n herio’r Prif Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Ann Clwyd fod y Gweinidog Anableddau, Maria Miller, wedi ymweld â Chymru yr wythnos ddiwethaf, a’i bod wedi dweud ei bod hi “fyny i bobol eraill ystyried a ddylai cyllideb Remploy gael ei ddatganoli i Gymru.

“Pan ddywedodd hi ‘pobol eraill’ dwi’n meddwl ei bod hi’n golygu chi,” meddai Ann Clwyd.

“Fel y’ch chi’n gwybod, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i gefnogi gweithwyr Remploy yng Nghymru. A fyddwch chi felly yn datganoli Remploy, yn ffatrioedd Cymru, ar gyfer y tair blynedd nesaf, er mwyn sicrhau bod yr holl ffatrioedd sydd â phosibilrwydd o ddyfodol yn cael dyfodol?”

Dywedodd y Prif Weinidog y byddai’n ystyried y cynnig “yn ofalus,” cynnig, meddai, oedd wedi ei gyflwyno mewn “ysbryd adeiladol iawn.”

‘Penderfyniadau anodd’

Ond dywedodd bod yn rhaid cymryd “penderfyniadau anodd” boed Remploy wedi ei ddatganoli ai peidio.

“Y ffaith yw ein bod ni wedi gofyn i brif weithredwr Disability Rights UK i edrych ar y mater, ac mae’r canlyniad y mae hi wedi ei gynnig yn cael cefnogaeth Mencap, Mind, Anableddau Cymru, y Ganolfan Iechyd Meddwl, ac elusen Sense,” meddai David Cameron.

“Y pwynt yw, mae buddsoddiad y Llywodraeth yn caniatau hanner biliwn o bunnoedd dros bum mlynedd ar gyfer Remploy, ond dyw hyd yn oed hynny ddim yn ddigon i gadw’r ffatrioedd yn agored,” meddai.