Mae Heddlu’r Gogledd wedi apelio o’r newydd am wybodaeth yn dilyn damwain angheuol ger Abergwyngregyn yng Ngwynedd ddydd Sul.

Bu farw James Loveridge, 35, yn y fan a’r lle ar ôl i ddau gerbyd daro yn erbyn ei gilydd ar yr A55 am 4am.

Roedd James Loveridge yn teithio mewn car Mitsubishi Shogun glas a fu mewn gwrthdrawiad â fan Renault Master wen.

Mae dau o bobl eraill fu’n teithio yn y Mitsubishi yn parhau yn ddifrifol wael yn yr ysbyty yn Lerpwl.

Mae dyn arall bellach wedi gadael yr ysbyty ar ôl cael triniaeth i’w anafiadau.

Mae teithiwr yn y fan yn dal i fod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty gydag anafiadau i’w ben a’i wddf.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion oedd yn teithio ar yr A55 rhwng 3.30am a 4am, a welodd y Mitsubishi yn teithio rhwng Bae Colwyn a chyffordd Tal y Bont  ger Bangor, i gysylltu â nhw.

Cafodd dyn 27 oed ei arestio nos Sul yn ardal Glannau Dyfrdwy ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu’r Gogledd ar 101.