Mae Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cytuno heddiw i ddiddymu’r rheolaethau monitro olaf ar ddefaid gafodd eu cyflwyno yn 1986 yn sgil trychineb niwclear Chernobyl.

Roedd yr ASB wedi cynnal adolygiad i asesu a oedd y mesurau yn dal i fod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau diogelwch bwyd.

Daeth yr adolygiad i’r casgliad na fyddai diddymu’r rheolaethau yn cyfaddawdu diogelwch defnyddwyr.

Yn dilyn ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid, ffermwyr, undebau ffermio a chyrff masnachu, mae’r Bwrdd wedi cytuno i ganiatáu i’r ASB gyhoeddi cydsyniadau, a fydd yn diddymu’r rheolaethau.

Bydd hyn yn caniatáu i’r holl ffermydd sy’n dal i fod dan gyfyngiad symud defaid heb fod angen monitro, o 1 Mehefin.

Cefndir

O’r 9,800 o ddaliadau yn y DU, a mwy na 4 miliwn o ddefaid gafodd eu rhoi dan gyfyngiad yn syth ar ôl y ddamwain niwclear yn 1986, dim ond 327 o ffermydd yng Ngogledd Cymru ac 8 fferm yn Cumbria, Lloegr, sy’n dal i fod dan gyfyngiad o ryw fath.

Cafodd yr holl reolaethau eu codi yng Ngogledd Iwerddon yn 2000 ac yn yr Alban yn 2010.