Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion yn dilyn damwain ffordd ddifrifol rhwng tri cherbyd ym Mhowys ddydd Mawrth.

Fe  ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gar a lori ar ffordd yr A483 rhwng Arddlin a Chei’r Trallwng tua  4.25pm bnawn ddoe.

Cafodd dyn yn ei dridegau ei gludo i Ysbyty Brenhinol Amwythig cyn cael ei drosglwyddo’n ddiweddarach i Ysbyty’r Frenhines Elizabeth yn Birmingham. Mae mewn cyflwr sefydlog.

Cafodd dwy ddynes hefyd eu cludo mewn hofrennydd i’r ysbyty.

Bu’r ffordd ar gau am rai oriau wedi’r ddamwain.

Dywedodd y Rhingyll Huw Thomas o Uned Plismona’r Ffyrdd Canolbarth Cymru:  “Roedd hon yn wrthdrawiad difrifol. Os welodd unrhyw un y gwrthdrawiad yn digwydd, neu os oes ganddyn nhw unrhyw wybodaeth a allai fod yn berthnasol, yna gofynnaf iddyn nhw gysylltu â swyddogion yng Ngorsaf Heddlu’r Drenewydd ar 101.”