Cafodd dyn ei gludo i’r ysbyty neithiwr yn dilyn tân mewn fflat ail lawr yn Maes y Parc, Aberteifi.

Aeth diffoddwyr tân o orsafoedd Aberteifi, Castell Newydd Emlyn a Chrymych i’r digwyddiad, a bu’n rhaid iddyn nhw ddefnyddio offer anadlu wrth ddelio â’r tân.

Cafodd y dyn losgiadau i’w ddwylo a’i goesau a chafodd ei gludo i’r ysbyty. Mae Brigâd Dan Gorllewin Cymru heddiw’n cynnal ymchwiliad i achos y tân.