George Osborne
Bydd y Canghellor George Osborne yn cyhoeddi ei Gyllideb heddiw, gydag adroddiadau y bydd e’n codi trothwy’r dreth incwm i £9,000 ac yn cyflwyno tâl rhanbarthol yn y sector cyhoeddus.

Byddai llawer o weithwyr Cymru yn elwa o godi trothwy treth incwm o £7,475 i £9,000, ond mae gofid y bydd amrywio cyflogau yn y sector cyhoeddus yn ôl y rhanbarth yn niweidiol i economi Cymru.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Cyngor yr Undebau Llafur, Brendan Barber: “Bydd tâl rhanbarthol yn gostwng cyflogau yn rhannau tlota’r wlad, yn arwain at gau busnesau ac yn atgyfnerthu dibyniaeth argyfyngol y Deyrnas Unedig ar Lundain a de-ddwyrain Lloegr.”

Mae George Osborne wedi mynegi ei anfodlonrwydd fod gweithwyr y sector cyhoeddus yn derbyn “premiwm” – sydd mor uchel â18% yng Nghymru – o’i gymharu â’r hyn gall y sector preifat ei gynnig yn lleol, a bod hyn yn ei dro yn effeithio ar allu busnesau i recriwtio.

Dywedodd undeb y PCS, sy’n cynrychioli gweithwyr yn y sector cyhoeddus, y byddai cyflwyno tâl rhanbarthol yn “greulon”.

Ychwanegodd yr undeb: “Mae’r economi leol – sy’n dioddef yn barod dan y fwtsieriaeth wleidyddol Dorïaidd  – yn galw am fuddsoddiad, nid toriadau ychwanegol.”