Ysgol gynradd Dihewyd
Mae trigolion ardal wledig yn dathlu ar ôl i gynghorwyr bleidleisio i roi hyd at flwyddyn a naw mis o ras i’w hysgol gynradd leol.

Yn ôl cadeirydd yr ymgyrch i achub Ysgol Gynradd Dihewyd yng Ngheredigion, mae’r achos bellach yn brawf ar ddemocratiaeth y cyngor sir.

Os bydd y Cabinet  yn gwrthod barn y cyngor llawn, meddai, fe fydd yn dangos nad yw democratiaeth yn gweithio.

Argymhelliad y cyngor

Fe fydd argymhelliad y cyngor llawn i gadw’r ysgol yn agored i roi cyfle iddi gynyddu nifer ei disgyblion yn cael ei drafod gan Gabinet Cyngor Ceredigion ddydd Llun.

Mae’r arweinwyr wedi galw cyfarfod Cabinet brys er mwyn trafod y mater ac, yn ôl Hywel Ifans, fe ddylen nhw gadw at benderfyniad y cyngor a newid eu meddwl ynglŷn â chau’r ysgol sydd â 13 o ddisgyblion.

Fe bleidleisiodd y cyngor llawn o 13-12 i gynnal dwy swydd athro yn yr ysgol tan ddiwedd eleni ac, os bydd nifer y disgyblion yn codi at y trothwy o 16 erbyn hynny, fe fydd hi’n cael blwyddyn arall i sefydlogi cyn cynnal adolygiad pellach.

‘Rhuthro penderfyniad’

Mae Hywel Ifans yn cyhuddo arweinwyr y Cyngor o geisio ansefydlogi’r ysgol fel ei bod yn colli disgyblion ac wedyn o ruthro’r penderfyniad i gau.

“Dim ond yn un flwyddyn yr oedd nifer y disgyblion wedi syrthio o dan 16,” meddai. “Y cyfan yr oedden ni’n ei ofyn oedd am gyfle i brofi bod cymuned fach yng nghefn gwlad yn gallu cynnal ysgol wledig.

“Rwy’n hyderu y bydd y Cabinet yn parchu barn ddemocrataidd y cyngor llawn a’i argymhelliad. Fydden i wedi fy syfrdanu ac yn amau democratiaeth o fewn y sir petai’r Cabinet yn anwybyddu barn y Cyngor mewn cyfarfod agored a chyhoeddus.”