Mae un o heddluoedd Cymru wedi gwahardd swyddogion rhag siarad â newyddiadurwyr oni bai bod ganddyn nhw hawl swyddfa’r wasg, yn ol Golygydd y South Wales Echo, Tim Gordon, wrth roi tystiolaeth i Ymchwiliad Leveson heddiw.

Mae’r Press Gazette yn adrodd bod Tim Gordon yn ofidus ynghylch y drefn newydd yn Heddlu Gwent gan fod gohebwyr ei bapur yn ymdrin â swyddfa gwasg yr heddlu yn hytrach na gyda’r plismyn.

“Rwyf o blaid cael llif cyson o wybodaeth,” meddai. “Mewn cymdeithas ddemocrataidd mae’n bwysig bod hynny’n digwydd.

“Byddai’n well gen i taswn ni’n gallu symud ymlaen ac ymddiried yn ein gilydd – bod fy ngohebwyr i’n gallu adeiladu perthynas gyda heddweision ar lefel broffesiynol fel nad oes pryder neu ffafrau a bod y wybodaeth yn llifo.

‘Agenda’

“Mae’r heddlu’n awyddus i ryddhau gwybodaeth pan mae’n siwtio’u hagenda nhw.”

Mae swyddfa’r wasg Heddlu Gwent wedi cadarnhau’r polisi newydd gan ddweud ei fod yn golygu bod ymateb yr heddlu yn “gyson a chywir”.

Yn ei dystiolaeth ysgrifenedig pwysleisiodd Tim Gordon y gwahaniaeth rhwng y wasg Lundeinig a’r wasg “ranbarthol”. Ar ôl archwilio treuliau 58 o newyddiadurwyr a golygyddion Media Wales, sy’n eiddo i Trinity Mirror, canfyddodd eu bod nhw’n gwario ar gyfartaledd 71c yr wythnos ar ddiddanu cysylltiadau.

“Dyw diddanu ddim yn rhan o’n diwylliant ni ers amser maith,” meddai Tim Gordon.