Leanne Wood
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood  wedi galw ar y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru i uno er mwyn gwrthwynebu camau gan Lywodraeth San Steffan i gyflwyno lefelau tâl rhanbarthol yn y sector cyhoeddus.

Daeth yr alwad gan Leanne Wood yn ystod ei sesiwn gyntaf o Gwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd fel arweinydd Plaid Cymru.

Dywedodd y buasai unrhyw ymdrech i dorri lefelau cyflog cymharol gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ei gwneud yn fwy anodd i bobl gael dau pen llinyn ynghyd.

Gofynnodd Leanne Wood hefyd i’r Prif Weinidog gynnull cyfarfod o arweinyddion y pleidiau yn y Cynulliad er mwyn cytuno ar ddatganiad o wrthwynebiad i’w anfon i San Steffan.

‘Neges gref’

Yn dilyn Cwestiynau’r Prif Weinidog, dywedodd Leanne Wood: “Mae gwir angen i Gymru anfon neges gref o’r Cynulliad Cenedlaethol at lywodraeth y DG er mwyn dangos y gwrthwynebiad clir sydd yma i’w cynlluniau am dâl rhanbarthol.

“Os bydd gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael yr hyn fydd mewn gwirionedd yn doriad sylweddol yn eu cyflog, beth fydd hynny yn olygu i’n heconomi? Bydd gan bobl lai o arian yn eu pocedi a bydd angen i fwy o’n pobl ifanc symud i ffwrdd i ddod o hyd i waith.

“Roeddwn yn siomedig fod y Prif Weinidog wedi gwrthod cynnull cyfarfod brys er mwyn rhoi cyfle o leiaf i holl arweinwyr y pleidiau gefnogi ein gwrthwynebiad i dâl rhanbarthol.”