Maes awyr Caerdydd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi beirniadu maes awyr Caerdydd unwaith eto – gan ddweud nad yw’r perchnogion yn rhedeg y  safle yn iawn.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Carwyn Jones wrth Aelodau’r Cynulliad yn y Senedd na fyddai am i bobl gyrraedd y maes awyr ar eu hymweliad cyntaf â Chymru gan y byddai’n rhoi argraff anffafriol o’r wlad.

Heddiw, roedd yn wynebu beirniadaeth am ei sylwadau gan arweinydd Ceidwadwyr Cymru Andrew R T Davies.  Dywedodd bod sylwadau Carwyn Jones yn llesteirio’r neges bositif roedd Cymru yn ceisio ei chyfleu i’r byd.

‘Ni all y sefyllfa barhau’

Ond fe wrthododd Carwyn Jones y feirniadaeth, gan ddweud na allai’r sefyllfa yn y maes awyr barhau.

“Rydw i’n synnu bod arweinydd yr wrthblaid yn ceisio dadlau am hyn. Mae’n rhaid mai ef yw’r unig berson yng Nghymru sy’n credu bod maes awyr Caerdydd yn gwneud yn dda. Ni all y sefyllfa ym Maes Awyr Caerdydd barhau. Dyw e ddim yn gwneud yn dda. Nid yw’r perchnogion presennol yn ei chynnal yn y modd y dylen nhw.

“Mae ’na botensial enfawr gyda’r perchnogion cywir, a fydd yn gallu dangos ymrwymiad.”

‘Tanseilio gwaith caled y staff’

Dywedodd Andrew R T Davies bod ei sylwadau yn tanseilio gwaith caled staff y maes awyr, a’i fod yn difrïo’r perchnogion er mwyn osgoi cymryd cyfrifoldeb am fethiant y Llywodraeth i gefnogi datblygu llwybrau newydd o Gaerdydd.

Ond gwrthod hynny wnaeth Carwyn Jones gan ddweud ei fod wedi derbyn cwynion gan bobl fusnes “wythnos ar ôl wythnos, nid am y staff ond y maes awyr.”

Dywedodd ei fod wedi crybwyll y materion hyn gyda’r perchnogion ond nad oedan nhw i weld yn cymryd diddordeb mewn gwella’r sefyllfa.

“Mae’n rhaid i’r perchnogion ei redeg yn iawn neu ei drosglwyddo – ac mae ’na ddiddordeb – i’r rhai hynny sydd am ei redeg yn iawn, ei ddatblygu a gwneud yr adeilad yn fwy deniadol.”

Yn gynharach y mis hwn fe ddatgelwyd bod nifer y bobl sy’n defnyddio’r maes awyr wedi gostwng 14% yn 2011 i 1.2 miliwn, gostyngiad o 1.39 miliwn yn 2010.