Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i ddigwyddiad bore ma yn dilyn adroddiadau bod dyn ar do adeilad yng nghanol Caerdydd.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod swyddogion, ynghyd â thrafodwr proffesiynol, wedi eu galw i westy’r Thistle ar Park Place toc wedi 10 y bore ma.
Cafodd rhan o’r heol ei chau a thoc wedi 11 y bore cafodd y dyn ei hebrwng oddi ar y to yn ddianaf.
Mae’r heddlu wedi diolch i’r cyhoedd am eu cydweithrediad.