Mae mudiad Sir Benfro yn erbyn y difa yn bygwth her gyfreithiol os bydd y Gweinidog Amgylchedd yn cyhoeddi heddiw bod moch daear i gael eu difa er mwyn rheoli’r diciâu mewn gwartheg.

Roedd y mudiad, ar y cyd â’r Ymddiriedolaeth Moch Daear, wedi dechrau her gyfreithiol pan gyhoeddodd  y cyn-Lywodraeth Lafur-Plaid Cymru  yn 2010 y byddai moch daear yn cael eu difa mewn ardal weithredu i’r de o afon Teifi yn Sir Benfro.

Cyhoeddodd y Llywodraeth Lafur yn 2011 eu bod nhw’n gohirio’r penderfyniad tra’n disgwyl barn wyddonol bellach, a heddiw mae disgwyl cyhoeddiad gan John Griffiths, y Gweinidog Amgylchedd, ynglŷn â’r camau diweddaraf i atal diciâu mewn gwartheg.

‘Ateb hir dymor’

“Hoffwn ni weld John Griffiths yn cyhoeddi rhaglen o frechu gwartheg yn hytrach na difa moch daear,” meddai Cadeirydd Sir Benfro yn erbyn y difa, Celia Thomas.

“Mae brechu gwartheg yn dipyn haws a chost effeithiol na mynd ar ôl moch daear yn y gwyllt, a dim ond 5% o achosion TB mewn gwartheg sydd o achos moch daear.”

“Mae’r diciâu yn gallu cael ei ledu o fuwch i fuwch, mae’r clefyd yn y pridd ac mewn tail, felly mae rhoi’r bai ar foch daear yn unig yn anghywir.”

Ychwanegodd Celia Thomas, sy’n cadw buches o dda tew yng nghanol yr ardal weithredu: “Ry’n ni fel mudiad eisiau gweld ateb hirdymor i’r broblem diciâu, nid yn unig yn ein hardal ni ond trwy Gymru gyfan.

“Ry’n ni’n anhapus iawn ein bod ni yn yr ardal weithredu yn byw dan waharddiadau, a bod swyddogion gweinyddiaeth yr amgylchedd yn gallu dod ar ein tir fel y dymunan nhw er mwyn ceisio rheoli moch daear. Dyw hynny ddim yn iawn.”

“Os bydd John Griffiths yn cyhoeddi rhaglen o ddifa moch daear, boed yn ein hardal ni neu ar draws Cymru, yna byddwn ni’n ailddechrau’r broses gyfreithiol er mwyn rhoi stop ar y peth.”