Mae’r Heddlu yn Abertawe yn dal i holi dynes 33 oed gafodd ei harestio ddoe ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i gorff dyn gael ei ddarganfod mewn tŷ yn y ddinas.

Cafwyd hyd i gorff y dyn yn  Nheras Penbryn yn ardal Brynmill am 6.14am fore dydd Llun.

Mae ei farwolaeth yn cael ei drin fel achos llofruddiaeth ac mae ystafell ymchwilio wedi cael ei sefydlu yng Ngorsaf Heddlu Cocyd.

Dyw’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Mae heddlu’r De yn apelio ar unrhyw un a welodd neu a glywodd unrhywbeth yn ymwneud â’r digwyddiad i gysylltu â nhw ar 01792 562732 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.