Carchar Caerdydd
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio ar ôl i ddyn 30 oed farw yng Ngharchar Caerdydd.

Daethpwyd o hyd i David Bounds, 30, o Ferthyr Tudful, yn anymwybodol yn ei gell fore dydd Sul.

Galwyd ar y parafeddygon ond roedd y dyn eisoes wedi marw. Mae ei deulu wedi cael gwybod.

Dyw’r heddlu ddim yn trin ei farwolaeth fel un amheus ond yn parhau i ymchwilio. Bydd profion tocsicoleg yn cael eu cynnal ar ei gorff.

Bydd yr ombwdsman carchardai yn ymchwilio i’r farwolaeth.