Prifysgol Aberystwyth
Fe gyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth heddiw ei bod yn creu pum swydd ddarlithio cyfrwng Cymraeg newydd sydd wedi eu cyllido gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, mewn cyfarfod i lansio cangen y Brifysgol o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Sefydlwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn cynllunio, cynnal a datblygu addysg ac ysgolheictod cyfrwng Cymraeg ym mhrifysgolion Cymru drwy weithgaredd y canghennau.
Mae’r swyddi ym meysydd addysg, amaeth, daearyddiaeth, mathemateg, ac astudiaethau rhan-amser – cynllun amlddisgyblaethol drwy’r Gymraeg a fydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr rhan-amser astudio tuag at radd yn un o bynciau’r dyniaethau neu’r gwyddorau.

Mae’r bum ddarlithyddiaeth yn cael eu cyllido am gyfnod o bum mlynedd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Yn ogystal cyhoeddodd yr Athro McMahon fod tair ysgoloriaeth ôl-raddedig mewn Gwleidyddiaeth, Gwyddorau Gwledig a’r Gyfraith yn cael eu creu, sydd hefyd wedi eu cyllido gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Eisoes yn ystod y flwyddyn academaidd bresennol mae chwe darlithydd wedi cael eu penodi gan Brifysgol Aberystwyth fel rhan o Gynllun Staffio Academaidd y Coleg.