Bu’n rhaid i ferch 12 oed gael triniaeth yn yr ysbyty bore ar ôl iddi fod mewn gwrthdrawiad â char yn Llanelli.

Fe ddigwyddodd y ddamwain rhwng 8.15am a 8.30am yn Heol y Twnnel. Roedd y ferch yn cerdded gyda grŵp o’i ffrindiau pan gafodd ei tharo gan gar. Fe fethodd gyrrwr y car ag aros wedi’r ddamwain.

Cafodd y ferch ei chludo i Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli gyda mân anafiadau i’w phen.

Dywed Heddlu Dyfed Powys mai’r unig fanylion sydd ganddyn nhw oedd bod y car yn lliw arian a bod y gyrrwr yn ddyn gyda gwallt brith. Maen nhw’n awyddus i holi’r dyn ynglŷn â’r digwyddiad.

Maen  nhw’n apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd ac a welodd car lliw arian yn teithio ar hyd y ffordd, i gysylltu â nhw.