Mae Liam Stacey yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe
Mae myfyriwr 21 oed o Bontypridd wedi pledio’n euog heddiw i gyhuddiad o ysgogi casineb hiliol ar ôl gwneud sylwadau ar wefan gymdeithasol Twitter.

Roedd Liam Stacey wedi trydar sylwadau ar ôl i chwaraewr Bolton Wanderers Fabrice Muamba gael ei daro’n wael ddydd Sadwrn mewn gêm gwpan yn erbyn Tottenham Hotspur.

Cafodd Liam Stacey ei ryddhau ar fechnïaeth gan ynadon Abertawe heddiw ac mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu yr wythnos nesaf.

Y prynhawn yma mae Prifysgol Abertawe wedi gwneud datganiad ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod y dyn yn fyfyriwr yn y brifysgol.

‘‘Parthed y sylwadau diweddar ar Trydar, rydym yn brifysgol sy’n hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ac yn datgysylltu ein hunain oddi wrth unrhyw sylwadau hiliol.

‘‘Wrth reswm, byddwn yn cydweithio’n llawn ag ymchwiliad yr Heddlu. Rydym hefyd wedi dechrau proses ddisgyblu ffurfiol ein hunain.’’