Bydd Gweinidog Amgylchedd Cymru, John Griffiths, yn gwneud cyhoeddiad yfory ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i reoli’r diciáu mewn anifeiliaid.

Cadarnhaodd llefarydd o Lywodraeth Cymru y bydd cyhoeddiad yfory yn y Senedd ac mae Golwg360 yn deall y bydd John Griffiths yn cwrdd â’r undebau amaeth cyn gwneud y cyhoeddiad.

Yr wythnos ddiwethaf roedd undebau amaeth Cymru wedi anfon llythyr ar y cyd at John Griffiths i “bwysleisio pwysigrwydd gweithredu er mwyn mynd i’r afael â TB mewn bywyd gwyllt”.

Yn y llythyr dywed penaethiaid Undeb Amaethwyr Cymru, NFU Cymru a’r CLA  (Cymdeithas tir a busnes cefn gwlad) nad yw brechu anifeiliaid gwyllt yn mynd i reoli problem diciáu yn y tymor hir.

“Fel rydych chi’n gwybod, ers bron i dair blynedd mae ffermwyr yn yr Ardal Weithredu Dwys [yn Sir Benfro] wedi cydweithio’n llwyr gyda chyrff y Llywodraeth wrth gyflwyno amrywiaeth o fesurau costus gyda’r bwriad o leihau trosglwyddiad TB o fuwch i fuwch, ac o fochyn daear i fuwch.

“Mae’r nifer o fuchesi sy’n dal dan waharddiad yn dangos yn glir na fydd y mesurau hyn yn llwyddo i reoli na gwaredu’r diciáu o ardal yng Nghymru ble mae moch daear a gwartheg yn dioddef o’r clefyd gwanychol hwn.

Ma’r llythyr yn dweud bod yn “rhaid gweithredu’n bendant” gan ychwanegu, “Mae ffermwyr gwartheg yn gwneud popeth yn eu gallu i waredu TB, ac mae’r diwydiant nawr yn troi at y Llywodraeth i gadw at ei gair i waredu’r diciáu trwy gyflwyno mesurau i ddelio â chlefyd yn y boblogaeth o foch daear.”

Mae llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr, Antoinette Sandbach AC, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n bendant.

“Mae angen i’r gweinidog ddangos fod ganddo’r dewrder gwleidyddol i gymryd penderfyniad anodd ond angenrheidiol dros TB.

“Mae wedi llusgo’i draed yn ddigon hir dros y mater hwn”.