Elfyn Llwyd
Mae’r Aelod Seneddol Elfyn Llwyd wedi mynegi ei siom dros benderfyniad Llywodraeth San Steffan i fwrw ymlaen â chau bron i chwarter llysoedd Cymru.

Cyhoeddwyd heddiw y bydd y pedwar llys cyntaf yn cau ym mis Ebrill eleni.

Fe fydd 12 o lysoedd ynadon yng Nghymru’n cael eu cau, er gwaetha’ gwrthwynebiad gan rai ynadon, cymunedau lleol a gwleidyddion.

Ymhlith y rhai sy’n mynd mai Llangefni, gan adael dim ond un llys ynadon yn Ynys Môn, ac Aberteifi, sy’n gadael bwlch dilys o Aberystwyth i Hwlffordd.

Yn ôl yr Adran Gyfiawnder yn Llundain fe fydd y penderfyniad yn arwain at wasanaeth mwy effeithlon.

Fe fydd £22 miliwn yn cael eu buddsoddi ar wella rhai o’r llysoedd, gan gynnwys Llys Prestatyn yng ngogledd Cymru, medden nhw.

‘Brysiog’

Dywedodd Elfyn Llwyd y bydd y cau yn taro ardaloedd gwledig Cymru ac yn peryglu cysyniad ‘cyfiawnder lleol’.

“Mae’n siomedig iawn fod Llywodraeth San Steffan wedi gwrthod gwrando ar synnwyr cyffredin ac wedi bwrw ymlaen â’u cynllun i gau llysoedd lleol o gwmpas Cymru,” meddai Elfyn Llwyd.

“Cafwyd ymgynghoriad gwallus a brysiog iawn yr haf llynedd. Ddwywaith, newidiwyd y ffigyrau am faint fyddai’r arbedion o gau’r llysoedd hyn trwy waith cynnal a chadw.

“Dangosodd y ffigyrau diweddaraf, a gyhoeddwyd wedi i’r ymgynghori ddod i ben, eu bod wedi camgyfrif yn enbyd. Traean o’r hyn a hawliwyd ganddynt oedd y ffigyrau mewn gwirionedd.

“Ymgais hollol fwriadol i dorri gwasanaethau oedd hyn, wedi’i gynnal gan bobl ddinesig nad ydynt yn sylweddoli bod teithio o un lle i’r llall mewn ardal wledig yn wahanol iawn i wneud hynny yn Llundain.”

Gadael bwlch

Cadarnhawyd heddiw mai llysoedd Llangefni, Cas-gwent, y Fflint ac Abertyleri fydd y cyntaf i gau, yn Ebrill 2011.

Bydd llysoedd Llwynypia ac Aberteifi yn cau ym Mehefin 2011, ac llysoedd Pwllheli, Pont-y-pŵl a Llys Sirol Aberdâr yn dilyn yng Ngorffennaf 2011.

Yr olaf i gau eleni fydd llysoedd Y Barri, Llys Ynadon Aberdâr a Rhydaman ym mis Rhagfyr 2011. Bydd llysoedd Dinbych a’r Rhyl hefyd yn dilyn ym mis Ebrill 2013.

Ymhlith y rhai sy’n mynd mai Llangefni, gan adael dim ond un llys ynadon yn Ynys Môn, ac Aberteifi, sy’n gadael bwlch dilys o Aberystwyth i Hwlffordd.