Mae Heddlu De Cymru’n apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn ifanc gael ei anafu’n ddifrifol yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Mae’r dyn 21 oed yn cael ei drin yn Ysbyty’r Brifysgol lle mae’n ddifrifol wael ar ôl yr ymosodiad a ddigwyddodd tra oedd pobol yn dathlu buddugoliaeth rygbi Cymru.

Yn ôl yr heddlu, roedd yr ymosodiad wedi digwydd yn ardal Cathays yn y brifddinas – fe ddaeth pobol ar draws y dyn tua 5.30pm.

Maen nhw’n apelio am dystion i’r hyn ddigwyddodd ger grisiau sy’n cysylltu Stryd Cranbrook a Ffordd Lowther.

Maen nhw’n chwilio’n apelio am wraig a oedd, medden nhw, yn debygol o fod wedi gweld beth ddigwyddodd.

Disgrifiad

Dyma’r disgrifiad o’r dyn – tua 6’1” gyda gwallt brown blêr a blewiach ar ei wyneb. Roedd yn gwisgo siaced ledr brown, crys polo glas nefi a jîns glas tywyll.