Gareth Montgomery-Johnson, chwith, a Nicholas Davies Jones Llun: Press TV
Mae dau newyddiadurwr sydd wedi cael eu cadw yn y ddalfa yn Libya ar amheuaeth o fod yn ysbiwyr wedi cael eu rhyddhau, yn ôl y Swyddfa Dramor.

Cafodd  Gareth Montgomery-Johnson o Gaerfyrddin a Nicholas Davies-Jones o Berkshire eu cipio gan filisia Libya yn Tripoli ar 22 Chwefror.

Yr wythnos ddiwethaf, fe gadarnhawyd bod y ddau, oedd wedi bod yn gweithio fel newyddiadurwyr llawrydd i orsaf deledu Press TV o Iran, wedi cael eu trosglwyddo i ofal Llywodraeth Libya.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor eu bod yn croesawu’r newyddion bod y ddau wedi cael eu rhyddhau a’u bod yn darparu cefnogaeth gonsylaidd iddyn nhw.

Ychwanegodd y llefarydd: “Mae’r dynion yng ngofal y staff consylaidd, mae nhw’n iach ac yn edrych ymlaen at weld eu teuluoedd yn fuan.”

‘Rhydd’

Dywedodd Melanie Gribble, chwaer Gareth Montgomery-Johnson, mewn cyfweliad â BBC Radio 5 Live, ei bod hi wedi cael galwad ffôn gan ei brawd toc wedi 9pm neithiwr yn dweud ei fod wedi cyrraedd llysgenhadaeth Prydain a’i fod yn rhydd.

Roedd wedi dweud wrthi bod y ddau yn flinedig iawn ac yn edrych ymlaen at ddychwelyd adre.

Dywedodd Melanie Gribble ei bod yn gobeithio y byddai ei brawd yn dychwelyd o fewn y 24-36 awr nesaf ond nad oedd o’n sicr beth oedd y trefniadau.