Jane Hutt
Mae Gweinidog Cyllid Cymru wedi galw ar y Canghellor yn Llundain i roi rhagor o arian cyfalaf i Gymru yn natganiad y Gyllideb yr wythnos yma.

Yn ôl Jane Hutt mae angen yr arian er mwyn rhoi cyfle i’r economi ddod ato’i hun yn sgil y dirwasgiad.

Mae wedi sôn am dri chynllun sy’n gwbl barod, o gael yr arian ar eu cyfer:

  • Gosod rhwydwaith ar gyfer y genhedlaeth nesa’ o wasanaethau band eang trwy Gymru.
  • Buddsoddiad o fwy na £100 miliwn yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.
  • Gwelliannau i ben Ffordd Blaenau’r Cymoedd, o Frynmawr i lawr i Gilwern.

“Mae’r adferiad economi’n dal i fod yn fregus,” meddai Jane Hutt. “R’yn ni’n awyddus iawn i wneud y gorau o fuddsoddi yn ystod y flwyddyn nesa’ er mwyn cynyddu galw yn yr economi.”

Mae hi wedi sgrifennu at Ganghellor y Trysorlys, George Osborne, yn gofyn am y buddsoddi ychwanegol.

Fe gafodd Cymru doriadau anferth yn ei gwario cyfalaf yn ystod y flwyddyn ddiwetha’.