Mae dyn 27 oed wedi cael ei arestio yng Nglannau Dyfrdwy ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus yn dilyn y ddamwain ddifrifol ar yr A55 ger Talybont yng Ngwynedd yn gynnar bore ma.

Digwyddodd y ddamwain o amgylch pedwar o’r gloch y bore heddiw ar ffordd orllewinol yr A55. Roedd dau gerbyd yn rhan o’r ddamwain.

Bu farw un person yn y fan a’r lle ac fe gafodd tri pherson gydag anafiadau difrifol eu cludo i’r ysbyty.

Roedd ffordd orllewinol yr A55 ar gau am gyfnod gyda’r traffig yn cael ei dargyfeirio.

Mae’r heddlu yn apelio am dystion i’r ddamwain. Maen nhw’n gofyn i unrhyw un a welodd y ddamwain i gysylltu â nhw trwy ffonio’r rhif 101.