Fflur Dafydd
Neithiwr cynhaliwyd Oscars y diwydiant cyhoeddi llyfrau yng Nghymru, gyda gwobrau yn cael eu cyflwyno i gyhoeddwyr am werthiant a safon cynhyrchu eu llyfrau Cymraeg a Saesneg.

Enillydd y categori Gwerthwr Gorau Ffuglen oedd nofel Fflur Dafydd, Y Llyfrgell, tra’r llyfr barddoniaeth a dderbyniodd y wobr am y gwerthiant gorau oedd cyfrol o gerddi’r diweddar Arch-dderwydd Dic Jones, Cerddi Dic yr Hendre.

Eleni, am y tro cyntaf, ychwanegwyd gwobrau ar gyfer dylunio a chynhyrchu ym maes cylchgronau Cymraeg a Saesneg, a’r cylchgrawn cerddoriaeth Y Selar a gipiodd y wobr Gymraeg, a Planet y wobr Saesneg.

Mae’r gwobrau’r diwydiant yn cael eu cynnal bob dwy flynedd ac eleni roedd y seremoni’n cyd-fynd â dathliadau hanner can mlwyddiant Cyngor Llyfrau Cymru.

“Mae’r cyhoeddwyr i gyd i’w llongyfarch yn fawr am eu gwaith,” dywedodd Elwyn Jones, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau. “Roedd sylwadau’r panel beirniaid dylunio yn tystio i’r datblygiad a fu yn y maes pwysig hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae’r ffaith fod deuddeg o gyhoeddwyr wedi dod i’r brig yn yr amrywiol gategorïau yn arwydd o’r bywiogrwydd ym maes cyhoeddi yng Nghymru yn y ddwy iaith.”

Wrth annerch y gynulleidfa, nododd yr Athro M.Wynn Thomas, Cadeirydd y Cyngor Llyfrau, nad y Cyngor Llyfrau yn unig fu’n dathlu carreg filltir arbennig yn ei hanes yn ddiweddar. Mae Gwasg Gwynedd yn dathlu deugain mlynedd o gyhoeddi, Seren newydd ddathlu deng mlynedd ar hugain o gyhoeddi a Honno, cyhoeddwyr llenyddiaeth menywod Cymru, hefyd yn dathlu chwarter canrif yn y maes. Cyfeiriodd M.Wynn Thomas hefyd at gyfraniad nodedig John Lewis, Gwasg Gomer a ddathlodd ei ben blwydd yn bedwar ugain yn ddiweddar ac sy’n parhau’n weithgar ym musnes y teulu a sefydlwyd gant ac ugain o flynyddoedd yn ôl.

Dyma holl enillwyr y gwobrau cyhoeddi:

Enillwyr Gwobrau Llyfrau Cymraeg

GWERTHWR GORAU FFUGLEN

Cyhoeddwr: Y Lolfa

Y Llyfrgell, Fflur Dafydd

GWERTHWR GORAU BARDDONIAETH

Cyhoeddwr: Gomer

Cerddi Dic yr Hendre, Dic Jones

GWERTHWR GORAU HEB FOD YN FFUGLEN

Cyhoeddwr: Y Lolfa

Yogi – Mewn Deg Eiliad, Bryan Davies

GWERTHWR GORAU PLANT

Cyhoeddwr: CAA

Patagonia, Sioned V. Hughes

LLYFR A FENTHYCIWYD AMLAF O LYFRGELL

Cyhoeddwr: Y Lolfa

Naw Mis, Caryl Lewis

DYLUNIO A CHYNHYRCHU (PLANT)

Cyhoeddwr: Gwynedd

Dwdl-mi-do, Mererid Hopwood a Nan Elis

DYLUNIO A CHYNHYRCHU (OEDOLION)

Cyhoeddwr: Gwasg Prifysgol Cymru

Cerddi Dafydd ap Gwilym, Gol. Amrywiol

LLYFR FFOTOGRAFFIG / CELF

Cyhoeddwr: Gomer

Patagonia – Croesi’r Paith, Matthew Rhys

DYLUNIO A CHYNHYRCHU: CYLCHGRAWN CYMRAEG

Y Selar

Enillwyr Gwobrau Llyfrau Saesneg

GWERTHWR GORAU FFUGLEN

Cyhoeddwr: Gomer

Not Quite White, Simon Thirsk

GWERTHWR GORAU BARDDONIAETH

Cyhoeddwr: Bloodaxe Books

The Water Table, Philip Gross

GWERTHWR GORAU HEB FOD YN FFUGLEN

Cyhoeddwr: Crownhouse Publishing

The Lazy Teacher’s Handbook, Jim Smith

GWERTHWR GORAU PLANT

Cyhoeddwr: Thomas Hamilton

Rhamin, Bryce Thomas

LLYFR A FENTHYCIWYD AMLAF O LYFRGELL

Cyhoeddwr: Accent Press

Black-Eyed Devils, Catrin Collier

DYLUNIO A CHYNHYRCHU (PLANT)

Cyhoeddwr: Pont (Gomer)

When Granny Tells a Story, Fran Evans

DYLUNIO A CHYNHYRCHU (OEDOLION)

Cyhoeddwr: Graffeg

Seashore Safaris, Judith Oakley

LLYFR FFOTOGRAFFIG / CELF

Cyhoeddwr: Gomer

Legend and Landscape of Wales: Tales of Arthur, John K. Bollard

DYLUNIO A CHYNHYRCHU: CYLCHGRAWN SAESNEG

Cyhoeddwr: ‘Berw Cyf.’

Planet