Leanne Wood
Wrth i Ieuan Wyn Jones gamu o’r neilltu fel arweinydd Plaid Cymru’r prynhawn yma, mae’n dweud fod ethol Leanne Wood fel yr arweinydd newydd yn gyfle i fynd â neges Plaid i bob cwr o Gymru.

“Dwi’n llongyfarch Leanne yn fawr iawn,” meddai Ieuan Wyn Jones wrth Golwg 360 y prynhawn yma, munudau’n unig wedi i’r ymgeisydd o’r Cymoedd gipio arweinyddiaeth Plaid gyda mwyafrif o 832.

“Mae’n amlwg wedi rhedeg ymgyrch effeithiol iawn, ac mae hi wedi rhoi llwyfan iddi hi ei hun i fynd â’i neges i bob cwr o Gymru,” meddai.

Ymateb  Dafydd Elis-Thomas

Mae Leanne Wood wedi cael croeso cynnes ar draws y Blaid ers ei dewis yn arweinydd newydd y prynhawn yma, ac mae hyd yn oed un o’i chyd-ymgeiswyr wedi datgan ei ddyhead i weithio fel “gweinidog yn Llywodraeth Cymru” iddi, yn y gobaith y bydd Plaid Cymru yn rheoli yn y Cynulliad dan Leanne Wood.

Wrth longyfarch ei gyd-ymgeisydd heddiw, cyfaddefodd Dafydd Elis-Thomas, mai Leanne Wood a enillodd ei ail bleidlais yntau, ar ôl rhoi’r cyntaf iddo fe’i hun.

“Nawr mae’n rhaid i ni weithio i’w chefnogi hi ac i’w chynnal hi ac i sicrhau y bydd hi yn gwneud marc ar wleidyddiaeth Cymru – a dw i’n sicr y gwneith hi,” meddai Dafydd Elis Thomas.

‘Apelio at bob cwr o Gymru

Yn ôl yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards, sydd wedi bod ynghlwm wrth ymgyrch Leanne Wood ers dyddiau cynnar yr ymgyrch, mae’r canlyniad yn un cadarnhaol dros ben i ddyfodol y blaid.

“Mae’n gam enfawr ymlaen. Cymraes ddi-gymraeg o’r Rhondda yn ennill yr arweinyddiaeth, er bod hi yn dysgu Cymraeg yn arbennig o dda, ei hiaith gyntaf yw Saesneg, ond mae hi’n amlwg yn wleidydd Cymru gyfan,” meddai Jonathan Edwards wrth Golwg 360 y prynhawn ’ma.

“Mae’n apelio at bob cwr o Gymru, a chi’n edrych ar y gefnogaeth glir gafodd hi yn y bleidlais o ran aelodau’r blaid – yn amlwg fod aelodau’r blaid yn ardaloedd traddodiadol wedi cefnogi Leanne yn gryf iawn. Ond hefyd pobol fel Dafydd Iwan, Adam Price, a finnau sydd yn dod o ardaloedd mwy traddodiadol y blaid yn dangos ein cefnogaeth iddi.”

Dywedodd bod penodi Leanne Wood yn arweinydd yn rhoi Plaid Cymru mewn sefyllfa gref iawn nawr i “fynd â’r frwydr ymlaen at y blaid Lafur – a’u diffyg gweledigaeth, diffyg uchelgais, a’u diffyg brwdfrydedd nhw ar hyn o bryd.”

‘Rhannu gweledigaeth’

Llwyddodd Leanne Wood i ennill cefnogaeth Cymdeithas yr Iaith hefyd, ac yn ôl Menna Machreth, cyn-gadeirydd y Gymdeithas, mae ethol Leanne Wood yn gyfle i rannu gweledigaeth newydd i Gymru gyda gweddill y wlad.

“Mae’n hyfryd gweld bod pobol wedi bod yn uno tu ôl i’w syniadau, nid gymaint tu ôl i berson, ond y weledigaeth,” meddai Menna Machreth wrth Golwg 360 heddiw.

“Gobeithio y gallwn ni nawr wneud Plaid yn gartref i bobol ar draws Cymru, o bob cefndir ac o bob oed.”

‘Hen bryd cael menyw wrth y llyw’

Yn ôl Llywydd y Blaid, Jill Evans, mae ethol Leanne Wood hefyd yn ddechreuad newydd i’r blaid, drwy gael y ddynes gyntaf yn arweinydd.

“Mae’r etholiad wedi bod yn dda iawn i’r blaid a dwi yn hapus iawn mai Leanne yw arweinydd newydd y blaid. Mae’n hen bryd i ni gael menyw fel arweinydd,” meddai.

“Mae hi yn dod o’r Cymoedd, mae gyda hi gefndir sydd yn galluogi hi i gyfathrebu a chael cefnogaeth gan bobl o bob rhan o Gymru yn cynnwys rhai o’r ardaloedd lle nad yw’r blaid  wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol, felly dw i yn credu bod e’n newyddion da i’r blaid. Mae’r blaid yn mynd i fod yn hollol newydd o hyn ymlaen,” meddai.

Croeso gan arweinwyr eraill

Mae Leanne Wood wedi cael ei chroesawu gan arweinwyr y pleidiau gwleidyddol eraill heddiw hefyd.

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd arweinydd y Dems Rhydd, Kirsty Williams, ei bod hi’n “gobeithio y gallwn ni gydweithio’n adeiladol gyda’n gilydd er mwyn dal Llywodraeth Cymru i gyfri ac er mwyn cipio’r cyfle i gryfhau datganoli.”

Tebyg oedd neges arweinydd Ceidwadwyr y Cynulliad, Andrew RT Davies, wrth ei llongyfarch.

“Dwi’n edrych ymlaen at weithio gyda Leanne yn ei rôl newydd a chydweithio â hi gymaint â phosib er mwyn dal Gweinidogion Llafur diog i gyfri,” meddai.

“Mae’n olynu Ieuan Wyn Jones, a arweiniodd ei blaid yn hynod, ac a chwaraeodd ran allweddol yn natblygiad y Cynulliad Cenedlaethol. Dwi’n dymuno’n dda i Ieuan yn y dyfodol,” meddai.

Fe fydd Leanne Wood nawr yn mynd ymlaen i baratoi ar gyfer Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru penwythnos nesa’, lle bydd hi’n cyflwyno’r brif araith, fel arweinydd newydd y blaid.