Mae’r gwaith yn dechrau heddiw ar adeiladu ffordd newydd 2 gilomedr ar ran o’r A470 ger Dolgellau, sy’n cynnwys 12 tro cas a golygfeydd cul.

Bydd y cynllun £11.3m ger Maes yr Helmau a Cross Foxes yn disodli’r rhan bresennol o heol yr A470.

Mae dyn busnes lleol wedi croesawu’r datblygiad. Dywedodd Dewi Gwynne sy’n rhedeg gwesty’r Cross Foxes sydd ar gyffordd amlwg ar yr A470: “Mae’n ffordd droellog a bydd unrhyw welliannau ar heol mor bwysig yn hwyluso ein busnes ni yma mae’n siwr”, meddai.

Dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog â chyfrifoldeb am Drafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru: “Mae gwaith Maes yr Helmau yn dystiolaeth i’n hymrwymiad i wella ein seilwaith trafnidiaeth ledled Cymru.

“Mae trafnidiaeth yn rhan hollbwysig o’n bywydau ac mae cymryd y camau iawn yn y maes yma yn hanfodol er mwyn cynnal twf economaidd yng Nghymru.”

Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad y byddan nhw’n gwario £56.7m ar welliannau’r A477 rhwng San Clêr a Rhos-goch, a ddechreuodd ym mis Chwefror, a £8.6m ar wella rhan arall o’r A470 yng Ngelligemlyn i’r gogledd o Ddolgellau.