Leighton Andrews
Bydd angen defnyddio pŵer y cyfryngau newydd a thechnoleg i wneud yn siŵr bod yr iaith Gymraeg yn ffynnu, dyna oedd neges Leighton Andrews cyn i grŵp gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth y Cynulliad gwrdd am y tro cyntaf.
Cafodd Grŵp y Gymraeg, Technoleg a’r Cyfryngau Digidol ei sefydlu i gynghori Llywodraeth y Cynulliad ar ochr dechnoleg a chyfryngau’r strategaeth iaith newydd Iaith Fyw: Iaith Byw. Daw’r aelodaeth o amrywiaeth eang o sefydliadau, gan gynnwys darlledwyr, cynhyrchwyr cynnwys, datblygwyr meddalwedd, ac academyddion.
‘Hanfodol i ddyfodol yr iaith’
“Bydd y cyfryngau darlledu traddodiadol a’r cyfryngau digidol newydd yn hanfodol i ddyfodol yr iaith. Mae angen i ddatblygiadau newydd yn y cyfryngau, technoleg a chynnwys digidol fod ar gael yn y Gymraeg os ydyn ni am i’r Gymraeg gael ei gweld fel iaith fodern, fyw,” meddai Leighton Andrews, y Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg.
Ychwanegodd, “Ein huchelgais, a’r hyn rydyn ni’n ei ddisgwyl, yw y dylai siaradwyr Cymraeg fedru mwynhau a defnyddio cynnwys digidol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhai o’r datblygiadau mwyaf cyffrous o’r ddarpariaeth ddigidol ar-lein yn y Gymraeg wedi dod o gynnwys a rhaglenni sydd wedi’u cynhyrchu gan y defnyddwyr, ac wedi’u creu gan y siaradwyr Cymraeg eu hunain.
“Mae’n rhaid inni ddefnyddio’r egni a’r ymrwymiad hwnnw a rhoi lle i leisiau newydd i sicrhau bod hyn yn parhau. Mae angen inni feddwl ar raddfa fawr, bod yn uchelgeisiol, ac anelu’n uchel.”
Amcanion
Bydd cylch gwaith y grŵp yn cael ei drafod yn y cyfarfod cyntaf, ac mae’n debygol o ganolbwyntio ar dri phwnc allweddol, sef:
– Sicrhau bod mwy o gynnwys, cynnyrch a gwasanaethau digidol ar gael yn rhwydd ac yn cael eu marchnata i siaradwyr Cymraeg.
– Defnyddio datblygiadau technolegol i helpu i hybu’r defnydd o’r Gymraeg.
– Sut y dylai’r Llywodraeth flaenoriaethu unrhyw fuddsoddiad yn y maes hwn?