Wrth i lwybr arfordirol Cymru gael ei gwblhau cyn ei agoriad swyddogol ar 5 Mai, mae’r Arolwg Ordnans heddiw’n lansio cystadleuaeth gwerth £125,000 ar gyfer syniadau fydd yn rhoi hwb i gymunedau’r arfordir.

Dyma’r ail dro i’r Arolwg Ordnans drefnu Her GeoVation, ac eleni bydd yn edrych yn benodol ar lwybr yr arfordir a ffyrdd o ddenu pobl leol i’w ddefnyddio, o roi hwb i fusnesau ac o ddenu ymwelwyr. Dywed yr Arolwg Ordnans eu bod nhw’n chwilio am syniadau blaengar fydd yn plethu daearyddiaeth a mapio. Mae’r her yn agored i bawb, a bydd yn cau ar 2 Mai, dridiau cyn i lwybr yr arfordir agor yn swyddogol.

Cymru fydd y wlad gyntaf yn y byd i gynnig llwybr troed swyddogol o amgylch ei harfordir cyfan. Mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd ar gwblhau darn 40 milltir o amgylch Penrhyn Gŵyr cyn yr agoriad swyddogol ar 5 Mai.

‘Hwb i economïau lleol’

Dywedodd John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd  “Bydd agor y Llwybr yn ddiwrnod cyffrous i Gymru. Ni fydd y wlad gyntaf yn y bydi gael trywydd ffurfiol yr holl ffordd o amgylch ein harfordir.

“Bydd y Llwybr yn agor ychydig cyn i lygaid y byd gael eu hoelio ar y DU ar gyfer y Gêmau Olympaidd. Rydyn ni’n gobeithio y bydd llawer o’r ymwelwyr a ddaw i Lundain yn penderfynu ymweld â Chymru a’i harfordir.

“Ers i’r prosiect hwn ddechrau yn 2007, rydyn ni wedi creu 130 o filltiroedd o lwybr newydd ac wedi gwella mwy na 330 milltir o’r hen lwybr. Bydd yn hwb gwirioneddol i economïau lleol ar hyd yr arfordir.”

Bydd y llwybr yn derbyn cyllid o £2miliwn y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol arfordirol, a mae Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop wedi rhoi bron i £4miliwn dros bedair blynedd tuag at y prosiect.