Does yr un brifysgol o Gymru wedi llwyddo i gyrraedd y rhestr o 100 prifysgol gorau’r byd.

Ac, o’r deg o wledydd Prydain sydd ar restr cylchgrawn y Times Higher Education, mae chwech wedi colli tir o’i gymharu â’r llynedd.

Y prif reswm, yn ôl trefnwyr y rhestr, yw fod prifysgolion o Asia’n cryfhau wrth ganolbwyntio’n llwyr ar safonau academaidd.

Prifysgol Caerdydd yw’r brifysgol Gymreig sydd fel rheol yn cael ei gosod ymhlith prifysgolion elît gwledydd Prydain ond dyw hi ddim wedi ei chynnwys, er bod ei chymydog, Prifysgol Bryste, yn sleifio i mewn rhwng 91 a 100.

Cyllid a chyfyngiadau

Mae’r THE hefyd yn dweud bod cyfyngiadau Llywodraeth Prydain ar fyfyrwyr tramor yn gwneud drwg, yn ogystal ag amheuon am gefnogaeth ariannol i fyfyrwyr.

Dim ond dwy brifysgol o wledydd Prydain sydd yn y deg uchaf – Caergrawnt yn drydydd a Rhydychen yn chweched – ac maen nhw wedi cadw’u safleoedd.

Mae pedair prifysgol o Lundain hefyd wedi eu cynnwys ac un – Prifysgol Caeredin – o’r Alban.

‘Newyddion anghyfforddus’

“Does dim amheuaeth fod y data yma’n newyddion anghyfforddus i’r Deyrnas Unedig,” meddai Phil Baty, golygydd y rhestr i’r cylchgrawn, sy’n seilio’r dewis ar nifer o wahanol feini prawf gan gynnwys parch rhyngwladol.

“Dyw’r negeseuon yr ydyn ni’n eu hanfon i’r byd am ein hymrwymiad i gyllido ein prifysgolion, yn cael eu bwydo gan luniau o fyfyrwyr yn protestio yn San Steffan, ar ben y cyfyngiadau ar fyfyrwyr tramor, ddim yn creu argraff dda’n rhyngwladol.”