Edwina Hart
Mae Gweinidog Busnes Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef heddiw fod gwendid mawr ym mrandio Cymru, a bod angen mynd i’r afael â hynny.

“Dwi ddim yn credu fy mod i wedi cael brand Cymru yn gywir,” cyfaddefodd Edwina Hart heddiw yng Nghyfarfod o Bwyllgor Busnes y Senedd.

Yn ôl Edwina Hart, canfod y brand cywir yw’r allwedd er mwyn denu buddsoddi mewnol a thwristiaeth i Gymru.

Dywedodd y Gweinidog Busnes ei bod bellach wedi rhoi tîm o arbenigwyr ar waith er mwyn gweithio ar greu delwedd a brand newydd i Gymru, er mwyn hyrwyddo’r wlad dramor.

Delwedd newydd i Gymru

“Mae angen brand arna i, brand sy’n gallu cael ei adnabod yn nhermau Cymru, sy’n ystyried yr economi, buddsoddi mewnol, twristiaeth, rheiny i gyd, ac yn ystyried popeth rydyn ni wedi bod yn gweithio arno,” meddai.

“Nawr mae gennym ni bobol sydd yn y farchnad honno sydd yn deall beth yw brand gwlad.”

Wrth drafod y cynllun newydd i werthu delwedd well o Gymru, dywedodd y Gweinidog ei bod hi’n ymwybodol bod pryderon ynglŷn â sut mae Cymru’n cael ei gweld dramor.

“Mae’n amlwg fod pobol yn pryderu am y ffordd rydyn ni’n cael ein gweld, a pha argraff r’yn ni’n ei greu, a bydd hwnnw yn cysylltu â pha fath o ddelwedd fyddwn ni yn ei gynnwys mewn marchnad dwristiaeth, ac yn ei roi ar boster ar gyfer busnes,” meddai.

“Mae’n rhaid i’r cyfan fod yn gwbl integredig a dydw i ddim yn meddwl ein bod ni wedi gwneud hynny’n dda iawn yn ddiweddar,” meddai.

Daw ei sylwadau ddyddiau’n unig wedi i Carwyn Jones ddychwelyd o daith genhadol i America, lle y bu’n ceisio creu cysylltiadau busnes a thwristiaeth rhwng Cymru a’r Unol Daleithiau.

Mae record Llywodraeth Lafur Cymru ar ddenu buddsoddiad gan gwmnïau o dramor wedi cael ei feirniadu llawer gan y gwrthbleidiau yn ddiweddar, yn enwedig yn sgil beirniadaeth fis diwethaf gan Bwyllgor Dethol Materion Cymreig San Steffan, oedd yn dweud bod Cymru wedi colli sawl cyfle i ddenu buddsoddiad o dramor ar ôl cael gwared ar Asiantaeth Datblygu Cymru yn 2006.