Mae diweithdra wedi codi yng Nghymru unwaith eto heddiw, gyda mil arall wedi cael eu gwneud yn ddiwaith yn y chwarter diwethaf.
Mae 134,000 o bobol nawr yn ddiwaith yng Nghymru, sef 9.1% o’r boblogaeth gweithiol, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae’r ffigyrau diweddaraf wedi gwthio graddfa diweithdra Prydain i’r lefel uchaf ers 17 mlynedd heddiw, wedi i nifer y diwaith ar draws y Deyrnas Unedig godi i 2.7 miliwn.
Mae nifer y bobol sy’n hawlio budd-dal y di-waith yn y DU hefyd wedi codi 9,000 yn y chwarter i Ionawr eleni, gyda 29.1 miliwn nawr yn ei hawlio, er bod lefel y cynnydd mewn diweithdra, sef 28,000, gyda’r isaf am bron i flwyddyn.
Mae’r ffigyrau yn dangos fod nifer gweithwyr y sector cyhoeddus wedi disgyn 37,000 yn chwarter olaf 2011, i ychydig dan chwe miliwn ar draws y Deyrnas Unedig, tra bod y nifer sydd bellach yn cael eu cyflogi gan gwmniau preifat wedi cynyddu 45,000 i 23 miliwn.
Mae diweithdra ymhlith yr ifanc wedi cynyddu 16,000 i gyrraedd 1.04 miliwn, gyda chyfradd y diwaith yn cyrraedd 22.5%, tra bod nifer y menywod diwaith yn y DU wedi neidio 22,000 yn y chwarter diwethaf i 1.13 miliwn.
‘Croesawu gwelliant’
Ond croesawu’r ystadegau i Gymru wnaeth Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, heddiw, a chanmol y twf yn nifer y bobol sydd mewn gwaith yng Nghymru am y trydydd mis yn olynol.
Mae’r ffigyrau yn dangos fod y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru wedi codi 0.6% ers y chwarter diwethaf, sef cynnydd o 0.6%.
“Dyma’r trydydd mis yn olynol i’r ffigyrau ddangos fod lefelau cyflogaeth wedi codi yng Nghymru. Maen nhw’n dangos ein bod ni’n symud yn y cyfeiriad iawn wrth i ni geisio ail-adeiladu’r economi,” meddai Cheryl Gillan.
“Ond mae llawer eto i’w gwneud, gyda graddfa diweithdra Cymru yn dal yn annerbyniol o uchel ar 9.1%.”
Canolbwyntio ar y cynnydd yn nifer y bobol sy’n gweithio wnaeth y Gweinidog Busnes Edwina Hart heddiw hefyd.
“Am y trydydd mis yn olynol, mae graddfa cyflogaeth yn y farchnad lafur Gymreig wedi perfformio’n well na’r DU drwyddi draw, dros y chwarter diwethaf a’r flwyddyn ddiwethaf,” meddai.
“Tra ei bod hi’n bwysig nad ydyn ni’n gor-ddadansoddi’r ffigyrau hyn, mae ’na arwyddion calonogol yn ymddangos yng Nghymru.
“Rydyn ni’n gwneud y gorau gallwn ni fel Llywodraeth ddatganoledig i ysgogi’r economi ac i dynnu’r rhwystrau y mae busnesau yn eu hwynebu, annog y galw, a buddsoddi am y tymor hirach.”