Mae Llywodraeth Cymru wedi wfftio ffigyrau GDP siomedig Cymru, gan ddweud fod yr ystadegau yn esgeuluso’r darlun llawn yng Nghymru.

Yn ôl y Llywodraeth, mae ystadegau diweddaraf EuroStat yn esgeuluso  ffactorau pwysig fel cymudo a mesuryddion incwm.

Mae’r ystadegau yn awgrymu bod Cymru ymhell tu ôl i weddill Prydain a rhannau helaeth o Ewrop o ran cynhyrchiant i bob person, gyda dim ond 82% o GDP cyfartaledd Ewrop, tra bod y DU ar gyfartaledd o 110%.

Ac mae’r ystadegau yn dangos bod y Cymoedd a Gorllewin Cymru yn gwneud yn arbennig o wael, gyda GDP o 64.8%, sydd tua’r un lefel â rhannau o Rwmania, Slofenia a Gwlad Groeg.

‘Camarweiniol’

Ond wfftio’r ffigyrau hyn wnaeth y Llywodraeth heddiw, gan ddweud eu bod yn gamarweiniol.

“Ers 2001, mae GDP y pen yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd wedi cadw tua’r un cyflymder â’r DU drwyddi draw,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Ond mae GDP yn arbennig o gamarweiniol, gan nad yw’n cymryd ystyriaeth o’r niferoedd mawr o gymudwyr sydd yn teithio allan o’r ardal – pwynt sy’n cael ei gydnabod yn llawn gan yr adroddiad.

“Er mwyn cael darlun clir o’r perfformiad economaidd, mae’n hanfodol i edrych ar nifer fawr o ddangosyddion, gan gynnwys cyfraddau cyflogaeth a mesuryddion incwm – lle mae Gorllewin Cymru a’r Cymoedd wedi bod yn perfformio’n dda.”

Beirniadaeth

Ond mae’r gwrthbleidiau wedi bod yn beirniadu Llywodraeth Lafur Cymru yn chwyrn, yn sgil cyhoeddi’r ffigyrau.

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd llefarydd busnes y Dems Rhydd, Eluned Parrott, fod y ffigyrau yn dystiolaeth fod y Llywodraeth wedi methu ag adfywio rhannau pwysig o Gymru er gwaetha’r biliynau o fuddsoddiad gan Ewrop.

“Dyma dystiolaeth bellach fod Llafur wedi methu pobol Cymru,” meddai.

“Yn hytrach na dysgu gwersi ar ôl y rowndiau cynharach o fuddsoddi Ewropeaidd, mae’n ymddangos ein bod ni’n llithro’n bellach yn ôl.”

‘Siomedig’

Mae llefarydd economi Plaid Cymru, Alun Ffred Jones, wedi dweud ei fod yn siomedig gyda’r ystadegau, ond nad ydyn nhw’n syndod.

“Yr hyn mae’r ffigyrau hyn yn eu dangos yn glir iawn yw mor fregus yw economi Cymru mewn adeg o ansefydlogrwydd economaidd, yn enwedig y Gorllewin a’r Cymoedd,” meddai.

Ond “sioc” oedd yr union air i ddisgrifio’r ffigyrau yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr ar yr economi, Nick Ramsay.

“Mae’r ffigyrau yma’n dangos i ni pa mor fregus yw economi Cymru,” meddai.

“Mae Cymru’n parhau yn un o rannau tlotaf y Deyrnas Unedig, ac mae GDP Cymru yn gyson is na’r cyfartaledd ar draws yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru ddechrau cydweithio’n adeiladol â Llywodraeth San Steffan a’r gymuned fusnes er mwyn creu’r amodau ar gyfer twf economaidd, cynyddu apêl Cymru i fuddsoddi posib, a gwneud Cymru yn genedl fwy llewyrchus,” meddai.