Mae Cyngor Sir Powys heddiw wedi penderfynu peidio a chaniatau cynlluniau’r Adran Ynni i godi dwy fferm wynt fawr yn y canolbarth.

Penderfynodd Cabinet y sir i wrthwynebu codi ffermydd gwynt ger Llanbadarn Fynydd ac ar Garnedd Wen, Llanbrynmair.

Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn Llundain gan fod y ddau gais ar gyfer ffermydd uwchlaw 50 megawat. Cyngor Sir Powys yw’r awdurdod cynllunio ar gyfer ceisiadau’n is na 50mw.

Gwrthwynebiad

Roedd y Cabinet yn gwrthwynebu’r cynlluniau ar sail effaith y datblygiadau ar olygfa a thirwedd yr ardal, ynghyd a rhesymau mynediad trwy heol. Ystyriodd y Cabinet hefyd effaith y ffermydd gwynt ar dwristiaeth ac economi’r ardal.

Dywedodd Caroline Evans, ymgyrchydd amlwg yn erbyn tyrbeini gwynt wrth Golwg360, ei bod hi’n croesawu’r newyddion heddiw.

“Rwyf i’n bles iawn fod synnwyr cyffredin wedi cario’r dydd” meddai Caroline Evans, sy’n ymgyrchu yn erbyn datblygiadau ym Mrechfa.

“Polisi’r llywodraeth yw i wastraffu arian pawb ar gymorthdaliadau ac yn y broses maen nhw’n dinistrio cefn gwlad hyfryd Cymru.”

Nid oedd neb ar gael i wneud sylw o gwmni ynni nPower, a oedd y tu ôl i gais Carnedd Wen.

Mae disgwyl i Gabinet Cyngor Sir Powys ymateb i bedwar cais pellach gan yr Adran Ynni yn Llundain ar gyfer ffermydd gwynt. Ar 6 Fawrth gwrthododd adran gynllunio Powys gais am fferm wynt gydag 11 o dyrbeini yn Waun Garno, Llawryglyn.