Mae Cyngor Sir Powys heddiw’n cynnal cyfarfod i drafod dau gais ar gyfer ffermydd gwynt, a chymaint yw’r diddordeb cyhoeddus fel bod y cyfarfodydd yn cael eu darlledu’n fyw ar y we.

Mae’r cyngor llawn a’r cabinet yn trafod ceisiadau ar gyfer fferm wynt yng Ngharnedd Wen ger Llanbrynmair, ac i’r gogledd o bentref Llanbadarn Fynydd.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Powys, y Cynghorydd Michael Jones: “Mae ychydig o seddau cyhoeddus yn y siambr ac rydym yn sefydlu ystafell ychwanegol i aelodau’r cyhoedd.

“Fodd bynnag, prin iawn yw’r lle a bydd mynediad trwy docyn yn unig. Roeddem yn teimlo mai’r ffordd orau o sicrhau fod cymaint o bobl ag sy’n bosibl yn gallu clywed a gweld y drafodaeth oedd creu gweddarllediad o’r trafodaethau.”

Mae cais i godi 50 o dyrbeini yng Ngharnedd Wen a 17 o dyrbeini yn Llanbadarn Fynydd, ac mae nifer o drigolion lleol wedi ymateb yn ffyrnig i’r ceisiadau. Yn ddiweddar darlledwyd cyfres fer ar S4C yn dilyn ymgyrchwyr yn erbyn ffermydd gwynt yng ngogledd Powys.