Antoinette Sandbach
Mae’r Ceidwadwyr yn rhybuddio y gallai cynlluniau Llywodraeth Cymru i uno cyrff amgylcheddol Cymru fygwth 20,000 o swyddi yng Nghymru.

Mae’r Ceidwadwyr yn dweud y gallai’r cynlluniau i uno Comisiwn Coedwigaeth Cymru gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru gael effaith andwyol ar y diwydiant coedwigaeth yng Nghymru.

Mae’r diwydiant yn cyflogi 20,000 o bobol ar draws Cymru ar hyn o bryd, ac mae llefarydd materion amaethyddol y Ceidwadwyr, Antoinette Sandbach, yn dweud bod cryfder y diwydiant yn deillio o’r arbenigedd sydd yn perthyn i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.

‘Ergyd i’r diwydiant coedwigaeth’

Mae Antoinette Sandbach yn dweud y gallai’r diffyg arbenigedd o fewn y corff newydd fod yn ergyd mawr i’r diwydiant coedwigaeth yng Nghymru – gyda’r perygl y gallai cwmniau mawr symud o Gymru.

“Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn gorff hyd-braich, sydd â digon o ryddid ar hyn o bryd i wneud penderfyniadau masnachol sydd o fudd i gwmniau yng Nghymru,” meddai.

Wrth ymweld a busnes gwaith coed ym Mhowys, BSW Timber, dywedodd Antoinette Sandbach ei bod yn poeni y gallai colli’r arbenigedd sydd ar gael yn y Comisiwn Coedwigaeth ar hyn o bryd wneud Cymru yn llai apelgar i fusnesau yn y diwydiant coedwigaeth.

Mae’r cwmni, sydd â chanolfannau yng Nghymru a’r Alban, yn y broses o greu 29 o swyddi newydd yn eu melin lifio yn y Bontnewydd-ar-Wy ym Mhowys.

Pryderon

Ond mae Antoinette Sandbach yn dweud bod y diwydiant yn pryderu am effaith masnachol diflaniad y Comisiwn Coedwigaeth.

“Mae yna byrderon eang os yw gwaith y Comisiwn Coedwigaeth yn cael ei dynnu mewn i’r corff amgylcheddol newydd y bydd arbenigedd hanfodol yn y diwydiant coedwigaeth yn cael ei golli,” meddai.

“Mae bron i 20,000 o swyddi yng Nghymru yn ddibynnol ar y diwydiant pren, felly dylai gweinidogion Llafur gamu’n ofalus iawn er mwyn osgoi gwneud Cymru yn le llai deiniadol i’r sector,” meddai.

“Fel mae gweinidogion Llafur wedi dysgu o’u cawlach wrth geisio uno cyrff hyd-braich yn y gorffennol, fel Asiantaeth Datblygu Cymru, a Bwrdd Twristiaeth Cymru, mae perygl o golli’r arbenigedd a’r profiad.

“Y peth diwethaf r’yn ni eisiau ei weld yw niwed i’r diwydiant pren a gweld cwmniau mawr sydd ag enw da yn codi pac ac yn trosglwyddo eu busnes i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig,” meddai.

“Mae’n bryd i’r Gweinidog ddechrau gwrando a gweithredu ar bryderon y degau o filoedd o weithwyr sydd â’u swyddi yn dibynnu ar ddiwydiant pren Cymru.”