Mae Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad heddiw wedi penderfynu gohirio etholiadau cyngor sir Ynys Môn.

Yn hytrach na chynnal etholiadau lleol ym mis Mai eleni, fel y bydd tir mawr Cymru, Lloegr a’r Alban, bydd pobl Ynys Môn yn ethol cynghorwyr yn 2013.

Daw’r penderfyniad yn dilyn oedi yn y broses o ail-wampio ffiniau wardiau’r ynys.

Yn ôl un o aelodau’r Pwyllgor, Simon Thomas AC: “Doedd dim opsiwn arall gyda ni. Does dim synnwyr mewn ethol cynghorwyr ym mis Mai ar sail yr hen wardiau  a wedyn cynnal etholiadau eraill yn 2013 ar sail y wardiau newydd. Mae’n drueni na addaswyd ffiniau’r wardiau mewn da bryd ar gyfer etholiadau eleni.

“Mae’n sefyllfa anffodus, a dwi’n siŵr byddai etholwyr Ynys Môn wedi bod yn hapusach gweld y Cynulliad cyfan yn pleidleisio ar y penderfyniad yn hytrach na phwyllgor.”

Mae Cyngor Ynys Môn bellach yn cael ei redeg gan bump comisiynydd yn hytrach na chynghorwyr yn dilyn blynyddoedd o anghydweld o fewn y cyngor sir.