Disgyblion Ysgol yr Hendre, Caernarfon
Mae ysgol gynradd newydd a gostiodd £9.3 miliwn i’w hadeiladu wedi agor ei drysau yng Nghaernarfon heddiw.

Mae lle i hyd at 450 o blant ar safle newydd Ysgol yr Hendre, ac mae’r ysgol yn cael ei hystyried fel ysgol fwyaf ecogyfeillgar Gwynedd.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Mae sicrhau bod pawb o blant a phobl ifanc Gwynedd yn cael y cychwyn gorau mewn bywyd yn flaenoriaeth allweddol i ni fel Cyngor.

“Bydd y prosiect arloesol yma’n golygu bod plant o’r rhan yma o Gaernarfon bellach yn elwa o gael eu haddysgu yn ysgol fwyaf modern Cymru.”

‘Llawer mwy nag ysgol’

Ychwanegodd y Cynghorydd Roy Owen, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol yr Hendre: “Mae Ysgol yr Hendre newydd yn llawer mwy nag ysgol. Mae’r ffaith ei bod hi hefyd yn cynnwys cyfleusterau sy’n darparu addysg oedolion, mentrau iechyd a lles cymdeithasol yn ogystal â gweithgareddau diwylliannol a chwaraeon yn golygu mai hi fydd calon y gymuned leol.”

Mae’r dulliau adeiladu a ddefnyddiwyd i godi Ysgol yr Hendre yn golygu bod yr adeilad yn aros yn gynnes yn y gaeaf ac yn glaear yn yr haf, a bydd hi’n bosibl ailgylchu dŵr glaw ar y safle newydd hefyd.

Meddai’r Cynghorydd Liz Saville Roberts, sy’n arwain ar Addysg ar Gyngor Gwynedd: “Yn ogystal â rhoi i ddisgyblion a’u hathrawon yr amgylchedd dysgu a gweithio y maen nhw’n ei haeddu, mae’r ysgol wedi derbyn dyfarniad safon rhagorol BREEAM, sy’n golygu ei bod hi’n un o’r ysgolion gwyrddaf yn y wlad”.