Alwyn Humphreys
Mae gwylwyr y gyfres Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C wedi dewis Pantyfedwen fel eu hoff emyn ar gyfer 2012.

Daeth yr emyn i’r brig mewn pleidlais a gynhaliwyd yn ystod mis Chwefror, ble roedd gofyn i wylwyr bleidleisio am eu hoff emyn o restr fer o ugain oedd wedi ei ddewis gan banel o arbenigwyr.

Datgelwyd y canlyniad mewn rhifyn o Dechrau Canu Dechrau Canmol gafodd ei recordio ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid, ac mae gan yr emyn buddugol gysylltiad a’r ardal gan iddo gael ei enwi ar ôl Pantyfedwen, cartref y teulu James yn Ystrad Fflur ger Pontrhydfendigaid.

Dywedodd Alwyn Humphreys, arweinydd canu a chyflwynydd y gyfres: “Mae Pantyfedwen yn emyn cymharol ddiweddar, ac mae’r geiriau a’r gerddoriaeth wedi cydio mewn ffordd sydd bron iawn yn unigryw i’r blynyddoedd diweddar. Dim ond Pantyfedwen a Bro Aber sydd wedi creu’r fath argraff yn y 50 mlynedd diwethaf.

“Mae cyfuniad o’r dôn a’r geiriau – ac yn enwedig ‘Mae’r Haleliwia yn fy enaid i’ – yn gwneud i bobl agor allan ac mae’n cynhyrfu pobl. Wedi’r cyfan, da’ ni gyd yn chwilio am yr Haleliwia yn ein bywydau.”

Silver Surfers

Yn ôl y cwmni cynhyrchu Avanti, sy’n gyfrifol am y gyfres, roedd nifer y pleidleisiau a dderbyniwyd yn uchel iawn. O ystyried poblogrwydd y gyfres ymysg gwylwyr hŷn y Sianel cafodd y tîm cynhyrchu syndod gyda nifer y rhai wnaeth ddewis bwrw eu pleidleisio ar y wefan.

“Mae’n ymddangos bod yna silver surfers go iawn yma yng Nghymru o ystyried y nifer sydd wedi bod yn ymweld â gwefan Dechrau Canu Dechrau Canmol er mwyn bwrw eu pleidlais,”  meddai cynhyrchydd y gyfres Dafydd Parri.